Archwiliwch ein Hystafelloedd a’n Gweithleoedd

7 Mai 2025

Chwilio am Ardaloedd Cyfarfod neu Ddigwyddiadau ym Mhowys?
Mae Llyfrgelloedd Powys yn cynnig amrywiaeth o ardaloedd fforddiadwy a hyblyg i’w llogi ar draws y sir. Perffaith ar gyfer cyfarfodydd, hyfforddiant, digwyddiadau cymunedol, cyfarfodydd ar-lein, cyfweliadau, neu ddesg waith llawn offer mewn ystafell a rennir neu ystafell breifat.
Pam Dewis Ni?
Prisiau Fforddiadwy: Gostyngiadau ar gael i fudiadau cymunedol neu wirfoddol, ac ar gyfer archebion o 10 wythnos neu fwy.
Llawn Offer: Mae llawer o ystafelloedd yn dod â sgriniau arddangos mawr gyda chysylltiad â’r rhyngrwyd, offer fideo-gynadledda, a banciau o liniaduron ar gyfer digwyddiadau hyfforddi.
WiFi Am Ddim: Ar gael ym mhob rhan o’n hadeiladau, ynghyd ag argraffu WiFi (llyfrgelloedd yn unig).