Dathlu Dydd Gŵyl Dewi

1 Maw 2025

Dydd Gŵyl Dewi Hapus!

Os nad ydych chi’n gwneud yn barod, beth am ychwanegu ychydig o ymadroddion Cymraeg i’ch diwrnod i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi? Cyfarchwch eich ffrindiau, cymdogion, a chydweithwyr yn Gymraeg. Dyma ychydig o ymadroddion i’ch rhoi chi ar ben ffordd:

  • S’mae / Shwmae! – Hi! How’s things?
  • Iawn – Fine
  • Bore da – Good morning
  • Prynhawn da – Good afternoon
  • Hwyl – Bye

Dywedodd y Cynghorydd Sandra Davies, Aelod Cabinet dros Genedlaethau’r Dyfodol: “Mae’r Gymraeg yn drysor y gallwn ni i gyd ei rannu. Beth am gofleidio’r iaith ar Ddydd Gŵyl Dewi eleni? Gall hyd yn oed y mymryn lleiaf o Gymraeg, fel helo neu hwyl fawr, fynd yn bell.

Gallwch ddod o hyd i gwrs sydd orau i chi yma, neu ar gyfer cwrs blasu ar-lein am ddim, cliciwch yma i ddechrau arni.