Elinor Bennett – Llais Hen Delynau Voice of Old Harps
15 Tachwedd @ 1:00 yp - 3:00 yp
£5.00 – £12.00
LLEISIAU HEN DELYNAU
Cyfle i wrando ar gerddoriaeth hyfryd o ‘r 18fed ga’r 19eg ganrif ar ddwy delyn hanesyddol a wnaed yn y cyfnod.
” Wedi canu darnau gan Handel a John Parry ar y delyn fodern am flynyddoedd, rwyf yn awyddus i rannu’r hwyl a gefais wrth ddysgu canu’r un gerddoriaeth ar yr offerynnau gwreiddiol. Dibynnais ar yr hen delynau, a llawysgrifau gwreiddiol o’r cyfnod – i ddangos y ffordd imi. Gwaith cariad oedd y broses o ganfod sain wirioneddol y cyfnod, ac mae rhai o’r technegau yn wahanol iawn i’n cyfnod ni. Rwyf wedi cael cyngor gan sawl cerddor sydd wedi arbenig o fewn maes cerddoriaeth cynnar, ac yn ddiolchgar am hynny.
Enw’r perfformiwr:Elinor Bennett
Mae’r delynores Elinor Bennett yn flaengar ym maes cerddoriaeth, fel perfformiwr ac athrawes a theithiodd y byd yn rhoi cyngherddau, datganiadau a dosbarthiadau meistr. Astudiodd yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain gyda’r athrylith, Osian Ellis, ac aeth ymlaen i berfformio gyda cherddorfeydd mwyaf Prydain a rhai o’r arweinyddion a chyfansoddwr gorau’r byd, yn cynnwys Benjamin Britten, Sir Colin Davis ac André Previn. Ysgrifennodd llawer cyfansoddwr gerddoriaeth iddi yn cynnwys Karl Jenkin
Gwybodaeth am gadw lle
I brynu tocynnau ar gyfer y digwyddiad, cysylltwch â: MOMA Machynlleth, Y Tabernacl, SY20 8AJ Tel: 01654 703355 Gwefan Tocynnau: https://moma.cymru